Dechrau'r daith i Frasil, Y Cas Ras yn bownsio & Celtic yn llygadu Bellamy
Update: 2025-11-04
Description
Ar ôl creu hanes drwy gyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2025, y targed amlwg nesaf i ferched Cymru yw cyrraedd Cwpan y Byd yn 2027. Mae'r llwybr i Frasil ychydig cliriach bellach wrth i garfan Rhian Wilkinson ddysgu pwy fydd ei gwrthwynebwyr cyntaf yn y rowndiau rhagbrofol.
Roedd Dylan Griffiths ar Y Cae Ras nos Wener i weld "gêm orau'r tymor hyd yma" wrth i Wrecsam guro Coventry City, gan helpu chwalu unrhyw atgofion o'r golled siomedig i Gaerdydd yng Nghwpan y Gynghrair.
Tydi'r hwyliau ddim cystal yn Abertawe. Ydi'r rheolwr Alan Sheehan yn tangyflawni o ystyried cryfder y garfan?
Ac wrth i Craig Bellamy barhau i gael ei gysylltu gyda swydd wag Celtic, fydd o wir yn cael ei ddenu i'r Alban yng nghanol ymgyrch ragbrofol Cymru?
Comments
In Channel



