DiscoverGwrachod Heddiw
Claim Ownership
14 Episodes
Reverse
CALAN GAEAF HAPUS WITCHEZ! Dyma bennod newydd o Gwrachod Heddiw i ddathlu. Yn y bennod yma, dwi'n siarad hefo'r actor / perfformiwr / bardd / cyfarfwyddwr o fri Lauren Albertina-Morais am yr holl bethau sydd yn ei gwneud hi'n wrachaidd. Mwynhewch Hags, A Plis @iwch fi hefo'ch gwisgoedd gwrachaidd! Byddwch wych, Byddwch Wrachaidd
Sgwrs gyda'r swynwraig Mhara Starling am wir ystyr y term "Gwrach". Yn y bennod hir hon o Gwrachod Heddiw, mae Mhara yn sôn am hanes swyngyfaredd a doethgrefft yng Nghymru, ei hanes personol hi a'r rhwystrau mae hi wedi wynebu yn ei bywyd i gyrraedd lle mae hi rŵan. Sgwrs ddwys, ddigri ac ysbrydol! Byddwch Wych, Byddwch Wrachaidd xoxo
Sgwrs am Iechyd meddwl, cynrychiolaeth o ferched ifanc Mwslimaidd yn y cyfryngau yng Nghymru a ffitio mewn. Ymunwch hefo Mari Elen mewn sgwrs gwrachaidd hefo'r awdur ifanc Mahum Umer, un o gyd-awduron cyfres y Pump.
Trafod hefo'r wrach Llinos Anwyl am ei chelf, pwer geiriau, pwysau teulu ar dy hunaniaeth a sut oedd merched yn cosbi dynion oedd yn gneud petha rybish yn yr hen ddyddiau.
Yr actor a’r model Emmy Stonelake ydy’r wrach dwi’n sgwrsio hefo heddiw, am nabod dy hun, cathod, drag race a bod yn ferched blewog ✨
Nabod dy werth, nabod dy gorff a Jini Me Jos. Sgwrs hefo'r perfformiwr / gwneuthiwr theatr a'r artist, Mirain Fflur am yr holl bethau sydd yn ei gwenud hi'r gwrach ydy hi. Mwynhau y podlediad? Hoffwch, tanysgrifiwch a rhowch adolygiad bach. Mae o'n gwneud BYD o wahaniaeth, coeliwch chi fi! Trydarwch gan ddefnyddio #GwrachodHeddiw i adael i mi wybod pa bethau Gwrachaidd 'dachi 'di bod yn gwneud, rhannwch hefo ffrind a sleidiwch mewn i'n DMs i. Bydwch wych, byddwch wrachaidd XOXO
Heuldro'r Gaeaf Hapus fy swynwragedd ysbennydd!Ym mhennod ola'r gyfres mi ydw i'n trafod hefo'r Academwrach hyfryd Hanna Hopwood Griffiths am ferched yr oesoedd canol , gwallt, esgor a sut mae hi'n gwneud ei bywyd hi'n haws. Diolch am eich cefnogaeth yn ystod y misoedd diwethaf, dwi'n lyfio witchez fi.
Doula, Mam, Gwrach o Waunfawr. Sgwrs hefo'r hyfryd Mama Lleuad (Catrin Jones) am foddion, rhianta, placenta a natur. Mwynhewch!
"Pan dwi'n cymharu'n ateb wan hefo be dd'udodd Mared Llywelyn am ri mwyar duon ym mhoced ei chwaer dwi fatha: Wyt ti'n serious?!" Sgwrs hefo'r bardd a'r awdur Llio Maddocks am berthnasau, Ffrindiau, Matilda, yr obsesiwn hefo : "Dwi ddim fatha' genod eraill", periods a lot o chwerthin! Mwynhewch!
Madarch, cwtshus i goed, byw ben dy hun ac wrth gwrs Siwsi Dôl-y-Clochydd. Sgwrs hefo Brenhines byd gwrachaidd Cymru, Bethan Gwanas. "Hefo synhwyro ysbrydion, ella dyna pam dwi’n gallu byw mewn tŷ ben fy hun... ma’ ‘na ysbrydion bob man, dwi’m yn gweld nhw... poeni dim arna fi”
"Mae menywod yn treulio eu holl bywydau yn rhoi pŵer nhw a rhoi gwaed nhw a rhoi egni nhw mewn i bobl erill fel teulu a partneriaid a pethe, ond mae gwrachod yn pobl sy'n troi y pŵer 'na nôl at ei hun." Sgwrs gyda'r awdur a'r dramodydd Nia Llinos am bod yn od, yn lleiafrifol a sut mae horror yn helpu hefo gor-bryder.
Positifrwydd, Gwrachod, Ffrogiau o'r 70au a chydig bach o Chwedloniaeth. Sgwrs gyda'r pensaer a'r arlunydd holl alluog, Efa Lois. Sgwrs hyfryd am godi llais pan bod angen, y broses creu a meithrin syniadau a'i chariad at cyd-ferched... a gwrachod.
Piriyds, Corff, Dyslecsia a tylluan o'r enw Bili. Sgwrs onest hefo Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd, Gwennan Mair Jones. "Os dani'n meddwl am y classics... dwi methu hedfan na?" Mwynhewch sgwrs hyfryd hefo gwrach hyfryd.
"Ma'n ffrindia fi'n d'eud fi 'sa'r person cynta' i ga'l fy hudo mewn i ymuno hefo cult"Sgwrs gyda'r dramodydd Mared Llywelyn am ei natur cenedlaetholgar, ei bro, ei chyfnod yn y brifysgol a Hocus Pocus. Mwynhewch!