Gareth Parry
Description
Yr arlunydd o Flaenau Ffestiniog, Gareth Parry, yw gwestai Beti George.
Magwyd yn y tŷ lle ganwyd ei Fam a’i Nain yn Manod, Blaenau Ffestiniog. Cawn hanesion difyr ei fagwraeth yn ogystal â'i hanes yn denig o Blaenau ar drên gyda'i ffrind ysgol am "fywyd gwell" yn Llundain a hynny yn ei arddegau.
Wedi gadael ysgol, fe aeth i’r coleg celf ym Manceinion, cyfnod y mods a’r rocers a’r gerddoriaeth soul. O fewn dim amser, mi roedd y teimlad o gaethiwed yn ôl, rhyw deimlad fod o yn y carchar eto (fel roedd yn teimlo adre efo Dad) . Daeth y rebel allan ynddo ac wedyn daeth y dylanwadau o’r tu allan i’r coleg.
Gadawodd y coleg a dod 'nôl i weithio yn y chwarel yn Blaenau. Dylanwadodd y naturiaethwr Ted Breeze arno, a bu'n gwerthu lluniau i'r cylchgrawn Country Life.
Mae bellach yn gwerthu ei waith mewn orielau celf yn Llundain ac yng Nghymru.