Y Fonesig Elan Closs Stephens
Description
Y Fonesig Elan Closs Stephens, Cyn Gadeirydd dros dro'r BBC, yw gwestai Beti a’i Phobol.
Mae hi’n trafod ei chyfnod stormus fel Cadeirydd a’i hoffter o gadeirio cyfarfodydd, “ dwi’n gweld o’n debyg i dreialon cŵn defaid” meddai Elan. Mae hi’n ymwneud â 18 o gyrff gwahanol.
Mae hi’n sôn am ei chyfnod yn magu’r plant ar ei phen ei hun yn dilyn marwolaeth ei gŵr yn ifanc, ac yn rhannu ei theimladau yn dilyn cael cancr 20 mlynedd nôl a sut mae hi’n byw bywyd wedi hynny.
Yn wreiddiol o Dalysarn, Gwynedd, cafodd ei haddysg yn Ysgol Dyffryn Nantlle a Choleg Somerville Rhydychen. Bu'n un o'r merched cyntaf i fod yn aelod o Gymdeithas Dafydd ap Gwilym.
Mae hi hefyd yn Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth ac yn trafod yr heriau ariannol sydd yn wynebu myfyrwyr heddiw.